Skip Navigation
Touring camp site overlooks Mawddach Estuary Touring camp site with electric hook ups Basic washing facilities and showers Panorama view pitches with hardstanding and electic hook ups

Gwersylla neu Garafanio yn
Graig Wen

Rydyn ni'n falch iawn fod Cool Camping Wales wedi dewis Graig Wen yn un o'r 5 lle gorau i wersylla yng Nghymru. Gall gwersyllwyr sy'n defnyddio pabell ddewis eu safle o blith llennyrch cysgodol, dolydd cudd, neu glogwyn gyda golwg dros yr aber. I eraill sydd o ddifrif am adael y byd ar ôl, mae gennym safle gwersylla di-gerbyd.

Mwynhewch olygfa orau Cymru!

Gall gwersyllwyr a chanddyn nhw faniau mawr, cartrefi mudol, neu garafannau, ddefnyddio'n safle ar gyfer cerbydau teithiol; yno medrwch fwynhau golygfa odidog o aber y Fawddach a'r bryniau cyfagos, a chyfleusterau ymolchi hwylus.

Prynodd Sarah a John Graig Wen ym mis Medi 2007. Rydyn ni ar hyn o bryd yn ceisio gwella'r cyfleusterau ymolchi ac ailgylchu, gan ychwanegu at y nifer o safleoedd wedi'u cysylltu â'r trydan, ac ar yr un pryd yn rheoli cadwraeth deugain acer o'r Parc Cenedlaethol. Ond ein prif fwriad ydy gadael Graig Wen fel y mae - yn wyllt a gwych.

Os hoffech gael profiad bythgofiadwy, arhoswch yn un o'n yurta. Mae'n llety Gwely a Brecwast a'n bwthyn gwyliau yn cynnig dewis heblaw canfas ar gyfer misoedd y gaeaf.

Prisiau gwersylla (y noson)

£6 am bob oedolyn
£2 am bawb dan 16 oed
Plant dan 5 am ddim

Telerau gostyngedig i feicwyr neu heicwyr.

Adnoddau'r safleoedd gwersylla:

  • ar agor rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref
  • un safle cyswllt trydanol a rhai safleoedd caled
  • croeso i gŵn ufudd ar dennyn
  • derbyniad ffôn symudol (petaech ei angen!)
  • safle pwrpasol ar gyfer Sgowtiaid neu grwpiau Dug Caeredin dan oruchwyliaeth

Cysylltwch â Sarah neu John i neilltuo safle gwersylla benodol neu i gael rhagor o wybodaeth am adnoddau gwersylla: hello@graigwen.co.uk Ffôn: 01341 250482