Sut i gyrraedd Graig Wen
Sut i ddod o hyd i lety Gwely a Brecwast, bwthyn gwyliau a gwersyll Graig Wen:
Ar feic neu droed
- mynediad uniongyrchol o Lwybr y Fawddach. Gostyngiadau ar gyfer beicwyr neu heicwyr.Ar drên
- mae gorsaf Morfa Mawddach filltir o Graig Wen gyda mynediad uniongyrchol o Lwybr y Fawddach. Gallwn drefnu i'ch codi neu i'ch danfon i'r orsaf (gan gynnwys beiciau mynydd).Ar y bws
–mae bysiau yn rhedeg rhwng Aberystwyth/ Machynlleth a Dolgellau. Gofynnwch i'r gyrrwr a gewch chi ddisgyn yn Graig Wen.Mewn cerbyd
– trowch oddi ar ffordd osgoi Dolgellau A470, a chymryd yr A493 sy'n mynd i gyfeiriad Tywyn/Fairbourne. Oddeutu 5 milltir o Ddolgellau chwiliwch am flwch post ar ei ben ei hunan ar y dde. Mae Graig Wen oddeutu 200 llath yn nes ymlaen ar y dde, ar ben rhyw fymryn o riw.Dylai cartrefi mudol ddod o gyfeiriad Dolgellau gan fod troi i'r chwith o gyfeiriad Fairbourne dipyn yn anodd.
Anwybyddwch y Sat Nav os ydych chi'n defnyddio'r cod post, gan ei fod yn dueddol o fynd â chi i orsaf Morfa Mawddach.
Edrych ar Graig Wen ar fapiau Google
Cysylltwch â Sarah neu John am ragor o wybodaeth am fynediad hello@graigwen.co.uk
Ffôn: 01341 250482
