Skip Navigation

Aros mewn yurt

Mae aros mewn yurt yn ffordd anhygoel o brofi'r darn diarffordd hwn o Barc Cenedlaethol Eryri. Ar ôl y Pasg, 2008, gobeithiwn fod wedi ychwanegu dau yurt wedi'u dodrefnu i'n darpariaeth wersylla. Yn ystod y gaeaf, byddwn yn eu llunio o ynn sy'n tyfu yn y goedlan. Caiff yr yurta eu gosod mewn llannerch gysgodol ar graig yn wynebu aber y Fawddach.

Adnoddau'r yurta:

  • stôf sy'n llosgi coed
  • adnoddau ac offer coginio syml
  • futon a chlustogau llawr cyfforddus - dewch â dillad gwely, gobenyddion a llieiniau hefo chi, neu gofynnwch inni ymlaen llaw am gael eu benthyg
  • am brofiad 5 seren o aros mewn yurt, gallwn ddarparu basgedaid o gynnyrch lleol neu frecwast wedi'i ddanfon at y drws

Cofiwch ddod â fflachlamp a gwrandewch am dylluanod neu greaduriaid y nos eraill.